Main content

Edrych ar ôl Lara

Mae pawb yn sylwi bod Lara ychydig bach yn isel. Trefnir iddi hi weld cynghorwr yn yr ysgol ac wedyn yn rhannu eu teimladau gyda ffrind. Teimlo’n well wedyn.

Yn llawn cyffro, mae'r criw'n cynllunio trip i'r sinema, ond mae pawb yn sylwi bod Lara (12) ychydig bach yn isel – mae hi'n dawel iawn ac yn dewis ffilm wirion, slapstic yn hytrach na'r ffilmiau mwy difrifol a thrist mae hi'n eu hoffi fel arfer. Mae Lara yn siarad â'i mam ac yn esbonio fod ganddi hiraeth ond dydy hi ddim yn gallu cyfaddef hyn wrth ei ffrindiau, rhag iddyn nhw feddwl ei bod hi'n ddwl. Pan fydd yr athrawes yn rhoi tasg i'r dosbarth i ysgrifennu am adeg pan oedden nhw'n teimlo'n drist, ceisia Lara egluro ei theimladau i Akira (12) ond mae hi'n cael trafferth eu cyfleu nhw i'w ffrind. Ar ôl derbyn pecyn arbennig gan ei mam, mae Lara yn colli ei thymer ac yn gweiddi ar Monica (11), ac yna'n rhedeg i ffwrdd i guddio ei dagrau. Yn betrusgar, mae hi'n penderfynu gwneud apwyntiad i fynd i weld cynghorwr yr ysgol, ond dydy hi ddim yn llwyddo i gael apwyntiad tan y diwrnod canlynol. Yn y cyfamser, mae ei ffrindiau wedi synnu at ei hymddygiad, ond wedyn maen nhw'n deall beth sy'n bod – mae ganddi hiraeth am adref. Penderfyna'r criw fod angen i Lara siarad am hyn, a heb wybod am fwriad Lara ei hun, maen nhw'n cynllwynio i'w chael hi i fynd i weld cynghorwr yr ysgol. Mae cynlluniau'r ffrindiau'n mynd o chwith, a dim ond llwyddo i ddychryn Lara druan maen nhw. O'r diwedd, penderfyna Tony (13) wrando'n iawn ar yr hyn sydd ganddi i'w ddweud. Mae Lara'n teimlo'n well ar ôl eu sgwrs ac mae'r ddau'n ei heglu hi tua'r sinema i ymuno â'r lleill – i weld y ffilm roedd Lara eisiau ei gweld go iawn. Maen nhw i gyd yn crïo wrth wylio'r ffilm, ac yn sylweddoli ei fod yn beth iach i rannu eu teimladau gyda'u ffrindiau.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu