Main content

Ffrindiau a Chystadleuwyr

Y tair merch yn cystadlu er mwyn dod i nabod boi’n well. Ond yn y diwedd mae'r merched yn penderfynu cymodi ac yn addo peidio byth â dewis bechgyn dros ei gilydd.

Mae Enrique, sy'n nai i 'fam' Lara ym Mhatagonia, yn dod i aros ond mae Lara (12) wedi pwdu oherwydd mae'n rhaid iddi symud o'i hystafell hi i rannu 'stafell gyda'r babi. Ond mae unrhyw ddrwgdeimlad yn diflannu cyn gynted ag y mae Lara'n gweld Enrique yn camu allan o'r tacsi. Mae hi wedi gwirioni! Yn anffodus iddi hi, mae Monica (11) ac Akira (12) wedi gwirioni arno hefyd. Y diwrnod canlynol yn y parc sgrialu mae'r tair merch yn dechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd am sylw Enrique. Dydy Tony (13) ddim yn deall y peth - beth sydd mor arbennig am y boi? Yn ystod y dydd, mae'r gystadleuaeth yn dwysáu rhwng y merched, a phan fydd Lara a Monica yn sylweddoli fod gan Enrique ddiddordeb yn Akira, mae eu cyfeillgarwch yn dioddef. Mae popeth yn cyrraedd uchafbwynt yn y sinema, lle mae'r merched yn achosi cymaint o stŵr nes bod Gabriel (13) yn colli ei dymer. Mae gweld Gabriel mor ofidus yn dangos iddyn nhw i ba raddau mae eu gelyniaeth wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch. Mae'r merched yn cymodi ac yn addo peidio byth â dewis bechgyn dros ei gilydd. Mae Lara hyd yn oed yn helpu Akira drwy roi ei chyfeiriad e-bost i Enrique er mwyn iddyn nhw gael cadw mewn cysylltiad.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu