Main content

Celwydd Bach Lara

Mae Lara a Gabriel yn dysgu bod dweud celwydd yn dda i ddim, ac mai dweud y gwir sydd orau bob amser.

Mae Monica (11) wedi cyffroi'n llwyr am gystadleuaeth gwyddbwyll yr ysgol ac mae hi'n mynnu bod Lara (12) yn cystadlu - wedi'r cyfan, roedd Lara wedi brolio'n ddiweddar ei bod hi wedi ennill tlws am chwarae gwyddbwyll. Ond roedd Lara wedi dweud celwydd. Does gan Lara ddim clem sut mae chwarae gwyddbwyll! Yn y cyfamser, dydy Gabriel (13) ddim wedi gwneud ei waith cartref, felly mae Gabriel a Tony (13) yn dweud celwydd wrth yr athrawes ac yn honni bod bag Gabriel wedi cael ei ddwyn. Mae'r euogrwydd yn ormod i Gabriel ac mae Tony yn ymbil arno i ymlacio rhag iddo adael y gath o'r cwd. Drannoeth, waeth faint mae hi'n ymdrechu i golli, dydy Lara ddim yn gallu colli'r un g锚m. Drwy lwc pur, mae hi'n ennill y gystadleuaeth. Ond ni all oddef yr euogrwydd o ddweud celwydd wrth bawb, felly mae hi'n gwrthod derbyn y tlws, ac yn cyhoeddi i'r ysgol gyfan ei bod wedi dweud celwydd. Wedi'u hysbrydoli gan onestrwydd Lara, mae Gabriel a Tony hefyd yn cyfaddef eu bod wedi dweud celwydd. Mae Lara a Gabriel yn dysgu bod dweud celwydd yn dda i ddim, ac mai dweud y gwir sydd orau bob amser.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu