Main content

Dawnsio

Lara鈥檔 mynd i ddisgo. Mae'r ferched yn colli鈥檙 bws olaf adref. Diolch i'r drefn, maen nhw'n gweld Tony a Gabriel, sy'n pryderu amdanyn nhw. Mam Lara sy'n dod i'w n么l nhw i gyd.

Mae Lara (12) ar ben ei digon pan mae bachgen o'r enw Marc yn ei gwahodd i ddisgo o dan 18. Mae hi'n perswadio ei 'mam ym Mhatagonia' i adael iddi fynd, ar yr amod y bydd Lara yn ei ffonio pan fydd hi'n cyrraedd y disgo a phan fydd hi'n mynd ar y bws olaf adref. Yn y cyfamser, mae Gabriel (13) a Tony (13) wedi eu brifo bod y merched wedi anghofio amdanyn nhw er mwyn mynd i'r disgo, yn enwedig am eu bod wedi cytuno i dreulio'r noson yn sgrialu. Ond pan mae diflastod yn eu taro, maen nhw'n sylweddoli nad oes dim byd yn eu hatal nhw rhag mynd i'r disgo hefyd. Yn y disgo, mae Lara'n gweld Marc o'r diwedd ac wedi mopio'i phen yn l芒n drosto, nes anghofio ffonio adref. Mae Lara yn ysu am gael dod i adnabod Marc yn well, felly mae hi'n perswadio'r merched i aros yn hirach nag y dylen nhw. Yn y diwedd, mae Lara yn cytuno i adael y disgo ond yn sylweddoli wedyn eu bod wedi colli'r bws olaf adref. Diolch i'r drefn, maen nhw'n gweld Tony a Gabriel, sy'n pryderu amdanyn nhw ac yn aros amdanyn nhw wrth yr arhosfan. Heb ddewis arall, maen nhw'n ffonio 'mam ym Mhatagonia' Lara i ddod i'w n么l nhw. Ar 么l cyrraedd adref, sylweddola Lara ei bod wedi siomi ei 'mam ym Mhatagonia', a'i ffrindiau, ac mae hi'n addo peidio ag anghofio am ei chyfrifoldebau yn y dyfodol.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu