Main content

Pigo ar fy Ffrind = Pigo Arna i

Ffrind newydd y merched Jacqui'n cyfaddef i Lara fod hi鈥檔 hoyw.

Yn y parc sgrialu, mae Akira (12) yn cyflwyno Lara (12) a Monica (11) i'w ffrind Jacquie (13). Yn fuan iawn, mae Jacquie yn synnu'r criw gyda'i sgiliau sgrialu rhyfeddol. Wedi'i hysbrydoli gan ei sgiliau hyderus, gofynna Lara i Jacquie ei helpu i ddysgu rhai o'r triciau. Wrth i Lara ddod i adnabod Jacquie yn well, mae ei hedmygedd ohoni'n tyfu. Byddai Lara wrth ei bodd yn gallu sgrialu cystal 芒 Jacquie, ond caiff ei hatgoffa o hyd am ei diffyg talent gan Max (16) sy'n ei phryfocio. Drannoeth, yn y parc, mae Jacquie yn ymddiried yn Lara ac yn dweud wrthi ei bod yn hoyw. I ddechrau, dydy Lara ddim yn poeni am y peth, ond ar 么l breuddwydio am Jacquie mae hi'n dechrau poeni a ydy'r teimladau o edmygedd a chyfeillgarwch cryf yn golygu rhywbeth mwy. Mae Akira yn ei sicrhau nad ydy hynny'n golygu ei bod hithau'n hoyw hefyd, er ei fod yn beth perffaith naturiol i fod yn hoyw. Gan bryderu efallai bod Jacquie yn ei 'ffans茂o' hi, penderfyna Lara ddweud wrth Jacquie nad ydy hi'n ei hoffi hi yn y ffordd ramantus. Mae'n rhyddhad i Lara i glywed nad oedd sail i'w phryderon ac mai eisiau bod yn ffrind iddi hi oedd Jacquie a dyna'r cyfan. Mae Lara'n hapus nad ydy hyn wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch o gwbl, ac mae'r ddwy'n cynllwynio i roi pin yn swigen Max.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu