Main content

O-o! B.O.!

Ar ôl sesiwn chwaraeon yn yr ysgol, mae Gabriel (13) yn mynd yn ôl i’r dosbarth heb gael cawod na newid ei grys-T. Mae’r merched yn sylwi bod Gabriel yn drewi. Mae e’n teimlo cywilydd, ond mae Tony (13) yn mynnu fod hyn yn arwydd ei fod e’n troi’n ddyn. Mae Gabriel yn meddwl ei fod wedi cael gwared ar yr aroglau drwy chwistrellu ffresnydd aer drosto, ond buan iawn y mae'n sylwi bod yr aroglau wedi dod yn ôl. Ble bynnag mae’n mynd, mae’r 'bwystfil B.O.' yn ei ddilyn, ac yn gwneud ei fywyd yn boen. Mae Tony a Gabriel yn gofyn cyngor Max (16) – wedi’r cyfan, mae’r merched yn ei addoli fe – a diolch i Max, mae Gabriel yn curo’r bwystfil B.O. unwaith ac am byth. Dim ond trueni bod Tony wedyn yn troi’n wahanol fath o fwystfil drewllyd, drwy fynd dros ben llestri gyda’r diaroglydd a’r eli eillio!

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu