Main content

Elis Dafydd: Nes bod bysedd yn brifo

(Ar ôl nosweithiau meic agored y Glôb)

Nes bod bysedd yn brifo,
cloch y bar yn dirgrynu’n ara,
a’r byd tu allan yn llacio’i afael

roeddem yno’n gwrando caneuon rhyw ddoe a fu,
yn clywed atgofion rhyw orffennol hen
am fanion a drodd yn gelfyddyd wedyn:

rhai’n cyrraedd, ffarwelio a mynd hyd y byd
a’r glaw’n morthwylio’n eu calonnau nhw i gyd.
Geiriau ac alawon pobl na wyddom eu hanes,

pobl a wnaeth brofiadau’n byw yn destun
rhyfeddod, cyn mynd, a glaswellt wedyn
yn cuddio ôl eu traed.

Ond mae iddynt hwythau eu hanfarwoldeb:
mewn strým gitâr ac ochain ffidil
a wylo tawel bar llawn alawon.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

42 eiliad

Daw'r clip hwn o