Main content

Dirgelion Nas Datryswyd

Cerdd gan bardd y mis - Arwel 'Pod' Roberts - yn edrych yn ol ar Eisteddfod Meifod.

Fel yn achos unrhyw brifwyl,
Mae sawl cwestiyn go annisgwyl
Wedi codi yma鈥檔 Meifod.
Oes atebion? Dwi鈥檓 yn gwbod.

Mae鈥檙 Pafiliwn yn binc 鈥檒eni,
Ond pa liw fydd o yn Y Fenni?

Faint cyn y Steddfod mae 鈥渃ae鈥 yn troi鈥檔 鈥渇aes鈥?

Sawl Gorseddigyn sydd angen help staes
Er mwyn mynd mewn i鈥檞 cynfasau lliwgar?

Pa mor hwyr mae hi鈥檔 bosib cael noson gynnar?

Ar 么l stopio cerdded, tybed sawl st么n
Yn drymach erbyn Dolig fydd Beryl Vaughan?

Wrth i鈥檙 wythnos fynd rhagddi, daw鈥檙 cwestiynau鈥檔 un fflyd:
Os oes Dawns Stryd i B芒r, pam ddim Dawns Bar i Stryd?

Oedd elw y towts ar docynnau Gwydion
Yn fwy neu鈥檔 llai nag elw鈥檙 lle sglodion?

Ar stondin Radio Cymru, ydi ceg poster Tommo
Yn fwy neu鈥檔 llai na鈥檌 geg go iawn o?

Sgwn i be arall heblaw pidoffilia
Sy鈥檔 bwnc tab诺 ym myd llenydda?

Ydi hi鈥檔 bosib gwahaniaethu
Go iawn rhwng adrodd a llefaru?

Slot Chwarter i Chwech 鈥檇i鈥檙 dirgelwch nesa鈥.
Yr amser neu鈥檙 enw. Pa un ddaeth gynta鈥?

Pwy feddyliodd fod maes y Steddfod
Angen chwaneg o fwnc茂od?

O鈥檙 rhai oedd yn cythru i brynu cyfrolau
Y Fedal a鈥檙 Daniel, a鈥檙 Cyfansoddiadau,
Tybed faint oedd yn gwneud hynny鈥檔 unig
Er mwyn rhoi鈥檙 argraff bod nhw鈥檔 ddiwylliedig?

Gan bod Lolfa L锚n i lenyddiaeth iach,
Pam ddim Bathrwm Ll锚n i hiwmor t欧 bach?

A鈥檙 un cwestiwn ola鈥 sy鈥檔 dal i 鈥檓hoeni.
Os oes 鈥檔a heddwch, pam mae鈥檔 rhaid gweiddi?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Tocyn Wythnos