Main content

'Hanner Call' - cerdd gan Aneirin Karadog

Cerdd newydd i hanner marathon Caerdydd gan Aneirin Karadog, bardd y mis ar Radio Cymru, cyn iddo ymuno 芒 chriw o feirdd eraill sy'n rhedeg y ras.

Ara' deg mae rhedeg ras
Yn ddianaf drwy'r ddinas
Heddiw, ac yn dy feddiant
Mae'r ddawn i guro'r myrdd a 芒nt.
Mas o bwff? Mae eisiau bardd
I'th annog drwy'r daith anhardd
A'i gwynegon, 芒 neges.
Filltir ar filltir yn f猫s,
Ugain mil o gwynion m芒n
O wingo 'geir eu hyngan.
Ond cadw fynd, cei di fawl
Nodau cyweiriau corawl
Hirfaith y llinell derfyn;
Y dorf sy'n dy ddal yn dynn.
Arwr o redwr ydwyt,
Yma, ffrind, Mo Farah wyt!
Gam wrth gam mae rhedeg, was,
Dy anadl fydd ein Dinas.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Hanner Marathon Caerdydd