Main content

Gweld Ghazalaw – cerdd gan Nici Beech

Bardd y Mis yn ymateb i berfformiad gan Ghazalaw ar gyfer y Sesiwn Fach.

Mi glywais gân am boen dyhead
A chân am orfod cuddio cariad
Ond yn gudd ym mhob un cwpled
Roedd allwedd agor calon galed.

Mi glywais gân am hen ferchetan
A chân am hen aradwr druan
Ond er bod cariad weithiau'n greulon
Roedd pob un cân yn codi 'nghalon.

Clyd yw cân dan wres hen garthen
Cân i'm cymell fel hen ychen
Er rhoi gwerth ar hen garthenni
'Run yw'r gân dan sidan sari.

Mi glywais ganu dau draddodiad
Yn rhannu nodau cyfrin cariad
A gobaith byd ym mhob doethineb
Ishq Karo* rhag nwy casineb.

(* "Byddwch mewn cariad")

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

44 eiliad