Main content

Aled Lewis Evans - cerdd am wasanaeth plygain Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

PLYGAIN
(Plygain Llanarmon Dyffryn Ceiriog)

Ar ddiwedd y ras a'r ciniawa,
awn am dro unwaith eto
i bendraw'r Cwm.

Ar ddiwedd blwyddyn arall -
i glywed carol,
a darlleniad am Ymgnawdoliad
sy'n ein hail gyfeirio.

Heibio holl ystyriaethau byd,
heibio'r rhengoedd,
heibio'r breintiau,
at ganu gwerin
am Faban bychan yn y gwair.

Heibio'r arian sydd fel arfer yn siarad,
at hen alaw gynefin ar organ,
a darlleniadau cyfarwydd sy'n ein clymu oll
yn ein dynoldeb pechadurus;
ein hunig obaith yw'r Ceidwad yn y Crud.

Heibio'r acenion a鈥檙 dillad gorau,
heibio'r ddelwedd a chwenychir
at alaw a ganodd angylion
"Gogoniant yn y goruchaf i Dduw"

Cyfarfod blynyddol 芒 ni ein hunain,
ac 芒'n Duw,
ar noson pan mae seren yn yr awyr
eto
ym mhendraw'r Cwm.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o