Main content

Rhaglen Dylan Jones gan Eurig Salisbury

Cerdd gan Eurig Salisbury yn arbennig ar gyfer rhaglen Dylan Jones.

Rhaglen Dylan Jones

Wrth droi fy radio 'mlaen am saith
Un bore Llun cyn mynd i'r gwaith,
Pesychais fy nhe
Dros fy Special K ...
Roedd Dylan Jones yn chwyldroi iaith.

Oedais am eiliad a meddwl, jiw,
Ai re-run cynnar o'r Talwrn yw?
Ond mwy rhyfeddol
Oedd ei gampau geiriol
Na rhai Ceri Wyn, Tommo a Cyw.

Roedd hwn yn well am lunio pyn
Na'r hacs sy'n creu penawdau'r Sun,
Nid pob un sydd
Yn feistr cudd
Ar eiriau - ond mae Dylan yn.

Fe aeth o eitem am werthu tai
I bobl leol ym Mangor, ai,
I ISIS mewn chwinc,
Unrhyw beth am linc,
Mae'n pynio yn ei gwsg, medd rhai.

Am eiriau mwys neu ateb ffraeth,
Na Dylan Jones, nid oes neb gwaeth,
Mae o mor, mor wael,
Mae o'n dda, yn ddi-ffael,
Mae'n taro'r marc bob tro fel saeth.

Ond peidiwch, da chi, 芒 dechrau cellwair
Am gamp y b锚l gron, neu bydd am bedair
Neu bump neu fwy
O oriau'n dweud pwy
Sy'n siwr iawn o ennill y gynghrair.

A minnau nawr y bore hwn
Ar raglen Dylan Jones, ni wn
Pa air bach smala
Ddaw ganddo nesa' ...
Ond bydd yn ddigon brathog, mwn!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 04/01/2016