Main content

Penillion Newydd i'r Hen Galan

Mae'r flwyddyn wedi'i geni
Yn hwyr y nos eleni,
A heddiw rhag hangover gwaeth
Am lymaid llaeth yn gweiddi.

Mae teulu a chyfeillion
Yn trydar eu cyfarchion,
Yn dod i gwrdd ar ddechrau dydd
Ei gilydd yn y galon.

Bydd 'leni, taerwn ninnau,
Yn ddoethach, er pob amau,
Anwylach, callach, gwell ei gwedd
Na'r llynedd ar ei gorau.

Er gwybod gwell, mae'r ysfa
Heddychlon ar ei heitha',
A chlo ar iet hen winllan ddu
Surfelus y rhyfela.

Mae'r flwyddyn, er ei gwlyped,
Yn newydd o ddiniwed,
Mae iaith ein gobaith yn ei gw锚n,
Hi hen, eleni ganed.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o