Main content

Rhiannon

Cerdd gan Eurig Salisbury ar gyfer ei wraig Rhiannon.

Rhag brath cawodydd trymion
Mae lloches ym mhob calon,
I mi rhag stormydd cas a braw
Rhew Ionawr, mae Rhiannon.

Ym mis y dyddiau byrion,
Pan guro'r tonnau geirwon,
Diolch i'r drefn fod gen i wraig
Sy'n graig ym mrig yr eigion.

A ninnau yn gariadon
A g诺r a gwraig, Rhiannon,
Mae bod i Llew yn 'mam a dad'
Ar gariad yn rhoi'r goron.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...