Main content

Breuddwydion

Breuddwydion

Neithiwr, a minnau鈥檔 nythu 鈥 yn fy ngw芒l,
fy nghwsg fu鈥檔 cynhyrchu
sawl delwedd i鈥檞 rhyfeddu:
carbwl dwl yr oriau du.

Roedd y Pab yn yn hyrddio pais 鈥 o ffenest
yn Nhreffynnon. Gwelais
Dewi Sant yn yn waldio sais
yn ddedwydd, fe freuddwydiais

am warewolf am Anti Marian 鈥 mewn sied,
am hen siarc sy鈥檔 hedfan
i Argos. Am Brei鈥檙 organ
a rhyw ful mewn caraf谩n.

Gweld Mamoth a Sian Cothi鈥檔 weldio trons
Donald Trump mewn festri
yn Sarn, ac fe welais i
ostrich yn gochi llestri.

Breuddwydiais y gwelais nhw鈥檌 gyd 鈥 Hitler
yn is-deitlo鈥檔 ddiwyd
am Ifor ap, am afr hud
wnaeth deisen hufen. Hefyd

鈥淧re-toasted Super Tusday!鈥 鈥 cyhoeddwyd.
鈥淐ei heddiw yn Seffw锚
barot sy鈥檔 gwisgo beret
all yfed dished o de.鈥

Hen bysgodyn heb sgidiau 鈥 a llefrith
mewn llyfr, ac yn Blaenau
cesyg gwyn fu鈥檔 ceisio gwau
y Garry Owen gorau.

Ceffyl yn ordro coffi 鈥 a tatan
mewn twtw, a mwnci
mewn scectol ddaru holi:
鈥淏e wnei o hyn?鈥 Be wn i?!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o