Main content

Cof Cenedl gan Gruffudd Owen

Cof Cenedl
Gawn ni dwrio drwy’r archif
a gloddesta fel pethau hurt ar drugareddau’r hen bobol?
Gawn ni wirioni’n boitsh ar ryw stori ddim byd
ac ailddysgu ymadroddion o’n plentyndod?
Gawn ni alw’r radio’n ‘weirlas’?
Gawn ni feddwi ar ffraethineb ein neiniau
a dawn dweud yr hen deidiau
cyn sobri’n sydyn
ar ganol gneud panad
wrth i leisiau’r meirwon
roi cig a gwaed ar esgyrn ein hanes?
Gawn ni anwylo ein ’nialwch
a hidio dim am y llwch
na’r sawl sy’n ein cyhuddo
o fod yn hen ffasiwn fel het?
Gawn ni hiraethu heb gywilydd
am lefydd na welsom erioed?
Gawn ni ymdrybaeddu fel moch
yn y storws sydd ym mhob stori,
yn y dweud mawr sy’n y siarad mân?
Gawn ni feddwi ar donfeddi ddoe
a gweld y gwir wrth glywed y geiriau?
Dewch, dewch i dwrio drwy’r archif.
Rydan ni wedi dirwesta’n rhy hir
tra’n llowcio sothach pobol eraill.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Penblwydd Hapus Cofio!