Main content

Y G锚m Fawr

Y G锚m Fawr

Fe ddaeth 'rhen syrcas wirion dros y tir
a chyfle i ymgolli yn y myth,
ac waeth beth ddaw, cawn eto cyn bo hir
berfformio'r un hen basiant, eto fyth.
Fe godwn beint a chodi lleisiau cras
i ddweud ein dweud heb orfod trin y b锚l
a gwylio gw欧r yn chwalu llawer gwas
a'u dysgu nad yw'r bywyd hwn yn f锚l.
Ond gwn bod awydd gwirion ynof fi
i herio holl gadernid gwlad y Sais,
cael hyrddio'n hyll i donnau gwyn lli
a chwalu nghorff yn siwrwd er mwyn cais.
Mae'n beryg bod ni'n rhwym, er gwell, er gwaeth
i'r reddf a yrrodd drichant i Gatraeth.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad

Dan sylw yn...