Main content

Cerdd i gofio encil Cristnogaeth 21

Cerdd gan Rocet Arwel Jones am brofiad gafodd e yn encil Cristnogaeth 21 yn Nant Gwrtheyrn

Cerdd gan Rocet Arwel Jones am brofiad gafodd e yn encil Cristnogaeth 21 yn Nant Gwrtheyrn -

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw ...

Lleisiau鈥檔 trampio鈥檌 mewn i鈥檙 tawelwch
Yn chwalu cadeiriau rhydd
Mewn gofod gwyn
A fu鈥檔 gorau uniongred.

Sgrin
Yn hoelio
Sylw
Ac arni lwybr o nodau
Fel cerrig
I gamu
Dros afon.

Taro nodyn,
Taro troed
Ar y garreg gyntaf
Yn betrus,
Sigledig,
I鈥檙 nesaf
Cyn codi pen a chanu.
Pawb a鈥檌 lais a鈥檌 g芒n,
Yn gras, yn swil, yn betrus
Yn mentro鈥檙 nodau m芒n.
Nes cydio yn ei gilydd
Y naill i鈥檙 llall yn dyst,
A phedwar llais yn enfys
Mor felys ar y glust,
Yn plethu yn gynghanedd
Gyntefig, lonydd, ddofn,
Yn llifo gyda鈥檌 gilydd
Dros greigiau llithrig, ofn...

Nes cyrraedd rhyw fan tenau ...

Yn lluwch o dawelwch ...

Yn ysgafn ...

Yn drwm ...

Yn dawel ...

Dawel ...

Dawel ...

Nes daeth s诺n
A geiriau鈥檙 byd
O bell
A鈥檜 sodlau鈥檔 trampio trwy鈥檙 tawelwch,
Yn rhygnu cadair fl锚r ar lawr
A gollwng y gynulleidfa鈥檔
Rhydd
Drachefn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o