Main content

Wyt ti yn chi?

Wyt ti yn chi?

‘Chi’ ’da ‘Chi’ mae ngreddf i’n dweud,
Fydda ‘Ti’ jyst ddim yn gwneud,
A ‘Ti’ wyt ‘Ti’ mae hynny’n blaen
No sweat, fy ffrind, no sweat, dim straen.
Weithiau mae ‘Chi’n efynnau caeth,
Yn tagu sgwrs a’i gwneud hi’n waeth.
Dro arall ‘Ti’ sy’n sws glec
Gan hen ffrind, o na, fflipin hec!
Ac weithiau’n wir, os oes gen i flys,
Mae troi at ‘Ti’ fel codi bys.
Dro arall mêt, (dwi ddim yn ffŵl),
Mae bod yn ‘Ti’ jyst yn cŵl.
Ond a thithau’n dri deg oed
Y peth gwaetha’i mi erioed,
’Di sylweddoli dy fod Ti
Yn mynnu ngalw i yn Chi!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

46 eiliad

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...