Main content

Cerdd i nodi 400 mlwyddiant marw Shakespeare

Cerdd gan Rocet Arwel Jones i nodi 400 mlwyddiant marw Shakespeare.

Chwilio am Wil

Fe gewch chi Wil o chwilio,
Rhwng cynhyrchiad ac addasiad,
Rhwng dau saib a sangiad,
Ar y ffin, o鈥檌 ddi-ffinio.
Fe gewch chi Wil o chwilio,
Rhwng pwyslais ac ynganiad,
Rhwng gramadeg pur a syniad.
O鈥檌 wisgo a鈥檌 goluro.
Fe gewch chi Wil o chwilio,
Rhwng hanes moel a dadansoddiad,
Rhwng athrylith a chyfieithiad.
Fe gewch chi Wil o chwilio.
Fe gewch chi Wil wrth chwilio.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Shakespeare