Main content

Cerdd John Gwilym Jones, 'Pentecost Iesu'

Cerdd Bardd y mis John Gwilym Jones i'r Pentecost

Pentecost Iesu

Yn Jerwsalem ein heddiw ni
clywir c么r o ieithoedd:
clywn dafodiaith y di-ffydd
a geiriau esmwyth y glastwryn glwth.
Parabl y di-dduw a鈥檙 di-ddim,
a lleferydd yr amheuwr a鈥檙 sinic a鈥檙 penboeth gwyllt.

Ac yn y carbwl llafar hwn
mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu,
a鈥檜 llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin.

Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau.
Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg,
a鈥檙 Bwdydd ei fyfyr, a鈥檙 Hind^w ei berlewyg.
Ninnau yn ein Salem a'n Soar,
yn Annibynwyr chwyrn,
y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt;
ym Methel y pentre nesaf
clywn acenion p锚r eu Presbyteriaeth,
a chan deyrngarwyr capel Ainon
eu deddfol ddefodol fedydd.

A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy ymhlith y lleisiau,
a suddo鈥檔 ddyfnach i鈥檙 lluniau bach ar eu sgrin gyfrin.

Ond yna ryw ddydd daw鈥檙 Ysbryd
i ffrwydro 芒鈥檌 d芒n drwy鈥檙 pedlera a鈥檙 ddogma ddall,
gan roi inni ei iaith newydd.
Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud;
iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau.
Enwau a fydd yn dugaredd, ansoddeiriau maddeuant,
idiomau gras a chymwynas, a berfau'n gyhyrog gan gariad.
Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall,
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau
a ffoaduriaid y pebyll pell.

Canys iaith Iesu yw hon, a daw'n plant i'w deall,
petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o