Main content

Y Gwin Gwyn

Nodi 'Diwrnod y Sauvignon Blanc'

Tra byddwch chi鈥檙 moethus deallus a doeth
yn sipian eich gwin mewn rhyw gegin fawr goeth
ac yn dathlu diwrnod y Sauvignon gwyn,
ystyriwch y twpyn sy鈥檔 eistedd fan hyn.

Rhaid imi gyfaddef na wn i ddim byd
am dablen na diod na鈥檙 gwirod i gyd;
mae ambell ddyn hyddysg a 诺yr sut i鈥檞 trin,
gan siarad fel gwrw am gwrw a gwin;

Ond dyma鈥檙 wybodaeth a鈥檓 trawodd i鈥檔 syn:
fod un dydd penodol i鈥檙 Sauvignon gwyn,
a phawb heddi weli yn agor poteli
drwy Ewrop i gyd, o Toulouse i Bwllheli.

Ond wedyn meddyliais, dyna dipyn o dreth
yw trefnu un diwrnod ar gyfer un peth;
Edrychais y we, mae 鈥檔a restr ar gael,
a dyddiad arbennig i bopeth dan haul.

A gwelais mewn syndod ar y nawfed o Fai
y bydd sane colledig yn cael eu coffau,
pob hosan fach unig a gollodd ei chw芒r
yn rhywle鈥檔 y golch. Ac mae 鈥檇a fi lond dr芒r.

Mae gen i hen Hotpoint sydd 芒 meddwl ei hun,
mae鈥檔 bwyta fy sanau bob bore dydd Llun,
ond beth bynnag yw鈥檙 golch wnaiff e byth fwyta p芒r,
a phob tro, bydd na un hosan od, yn un sb芒r.

Ond os bydd y nawfed o Fai鈥檔 dywydd ffein
fe roddaf y rhes sane od ar y lein
a thalaf wrogaeth i鈥檙 holl dri deg tri
am fod eu bodolaeth mor iwsles 芒 fi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau