Cywydd Mawl i Beti
Cywydd Mawl i Beti
Untro mewn côl o bentre
daeth, fel gwên o lawen le,
un gefais bron yn gyfoed
yn forwyn cân o Fryn Coed:
ei doniau ar adenydd
âi’n uchel i’r awel rydd.
Gyda’i brawd o Goed y Bryn
yn ei hysgol gwnâi esgyn;
drwy’i chynneddf fesul steddfod
gwelem a chlywem ei chlod,
a mwynder llyfnder ei llais
yn hudlath o hyfrydlais.
Ond ar lwyfan gwahanol
daeth Beti i ni yn ôl,
dod i wlad o aelwydydd
i roi darn o stori’r dydd,
’run mor lân â’r ynganu
yn fêl ar lwyfannau fu.
Ond yn awr bu’n dwyn i ni
orig ym myd y cewri,
neu’n dwyn i ni y di-nod
wynebau diadnabod;
chwilia fodd, drwy’i chelfyddyd,
roi’r Cymry i Gymru i gyd.
Mae’n gwlad mewn portreadau
yma i ni eu mwynhau,
oriel o bob cymeriad
o ddoe glywn, a heddiw gwlad:
pawb gwâr a wnâi lefaru,
yng nghwmni Beti y bu.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
John Gwilym Jones - Bardd Mis Mai 2016—Gwybodaeth
Cerddi John Gwilym Jones ar gyfer Mai 2016.
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
-
" Lle ni'n gosod y celfyddydau fel cenedl ?"
Hyd: 04:32
-
Stori y Gangster Murray the Hump
Hyd: 08:18
-
Mali Ann Rees
Hyd: 05:32