Main content

Telyneg neu soned: Cip Sydyn

Yn dyner, dawel daw i'r sgr卯n
dy lun, mewn du a gwyn.
A gwelaf, mewn hanner curiad
adenydd gl枚yn byw
dy lygaid a dy gysgod,
dy straeon a dy chwerthin,
dy enw a dy hoff si-hei-lw.
Fel petai rhywun
wedi gosod y cyfan
yn barsel annisgwyl
ar riniog fy myd.
Cyn i eiriau'r nyrs ddisgyn
yn araf amdanaf fel plu,
a ngwneud i'n slwj o eira oer.
Does dim parsel na gl枚yn byw.
Mae'r llun yn deilchion.

Casia Wiliam
10/10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

47 eiliad