Main content

Telyneg neu soned: Cip Sydyn

Cip Sydyn
(Ar 么l gweld afonydd Cymru wedi'u mapio'n ddigidol)

Ar fap fe welais y wlad mewn d眉wch
Heb iddi arfordir na ffurf na ffin.
Os ydoedd o gwbl yn y tywyllwch
Ni theimlwn iaith Eryri ar fy min
Na'i phenrhynnau'n estyn o'r dwr llwyd, stond
Amdanaf. Yno'n ei habsenoldeb
Dychmygais ei phobol hithau - dim ond
Swigod mewn cors na fyn ddod i'r wyneb.
Nes i fellten hollti trwy'i holl feinwe,
A phwerdy Pumlumon godi'n dwr;
Gwefr ei gwythiennau fel c芒n y bore
A'i gwlith yn ddisglair. A gwelais drwy'r stwr
Rhwng Alaw a Gwy, Alyn a Chleddau
Am eiliad Gymru'n boddi mewn golau.

Osian Rhys Jones
10/10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud