Main content

Anobeithiaf am yr un hen bethau

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Anobeithiaf am yr un hen bethau’

Ar ôl 15 mlynedd yng Nghaerdydd, mi fyddaf yn symud yn ôl i fyw i’r gogledd cyn hir

Anobeithiaf am yr un hen bethau:
unig a gwledig fydd goleuadau
bach y dre’, ac i be’r af i’r bariau?
Eto rhywle, ar fy nghrôl o’r deau,
mae Caernarfon calonnau. A min nos,
y sêr yn agos ar wenu hogiau.

Rhys Iorwerth - 10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

21 eiliad