Main content

Man Geni

i Ashley Williams a'i griw.

Nid ffîn sy'n dy ddiffinio, nid un hil
Sy'n dy wneud yn Gymro.
Trwy'r rhain fe'th fernir bob tro –
Lliw dy grys, llaw dy groeso.

Hen deidiau sy'n dywedyd nad yw'r un
O dre'r Wolves yn drychyd
Fel wyneb bro ein mebyd.
Ond mae Ashley'n Gymru i gyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o