Main content

Cywydd - ‘Dim ond’ - Rhys Iorwerth

(Ymweld â bedd Hedd Wyn am y tro cyntaf)

Dim ond ni a’r meini mud
sy’ yma. Dim yn symud:
awel haf ac arafwch
cysglyd ar weryd yn drwch;
ac o gylch y meini gwyn,
haul ac Å·d gwlad Belg wedyn.

Gwyrddni lawnt. Y gerddi’n lân,
a gyfuwch â draig fechan,
dyna weld ei enw o.
Anadl. Fan draw’n dadflino
ar y dalar mae ffarmwr
how-di-dow yn cario dŵr.
Rhys Iorwerth (Aberhafren)
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

46 eiliad

Daw'r clip hwn o