Main content

Llythyrau

O鈥檜 mewn y mae hanes. Mae rhai mewn llyfrgelloedd; ar goll
y mae eraill yng ngwaelod hen gist, a鈥檙 gist ar gau
cyn i rywun ddod i ddadlennu鈥檙 cyfrinachau oll,
a throi鈥檔 llith academaidd oer y dymestl rhwng dau.

Graenus oedd ysgrifen Goronwy, hyd yn oed wrth gofnodi
marwolaeth Elin yn Walton, cyn croesi鈥檙 d诺r;
cain oedd ysgrifen Kate, er ei bod, cyn priodi,
yn datgelu ei rhywioldeb amwys wrth ei darpar-诺r.

Bob Parry, darlithydd 芒鈥檌 lythyr gan lid wedi鈥檌 lethu;
Waldo, yn crwydro ar wasgar, a charchar o鈥檌 flaen,
芒鈥檌 ysgrifen ar wasgar hefyd, rhag y gwawd o鈥檌 drethu;
roedd ysgrifen Gwenallt yn gymen, ond yn gam dan y straen

o orweithio i ennill ei blwy fel ysgolhaig
mewn cenedl anwadal, a鈥檌 chalon yn galetach na chraig.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud