Main content

Bethlehem

Bethlehem

Maen nhw鈥檔 llenwi pob un o silffoedd y t欧 erbyn hyn,
cardiau Nadolig, a phob llun arnyn nhw yn gyfarwydd:
yr angylion lu, y tri brenin ar gopa鈥檙 bryn
yn syllu ar y seren o bellter ac yn dilyn ei harwydd.

Congl-faen ei ffydd i鈥檙 crediniwr yw鈥檙 cardiau hyn
tra bo鈥檙 amheuwr yn gobeithio mai gwir yw鈥檙 stori,
ond i鈥檙 anffyddiwr rhonc, dim ond celwydd gwyn
yw Nadolig yr eira, y Seren, a鈥檙 Mab i鈥檞 drysori.

Amgenach yw Bethlem y gwn i Fethlem y cardiau,
ac mae gwaed Palesteiniaid yn staenio man geni Crist,
a milwyr yr Israel hwythau yn llenwi wardiau
ysbytai 芒 phlant maluriedig, toredig, trist.

A ddylid ar y cardiau hynny roi llun ceir ar d芒n
a lladd pob llawenydd a gobaith a mygu pob c芒n?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o