Main content

Jarman

Mae mur o galonnau’n curo
yn y chwys rhwng llawr ucha’r clwb
a’r nôs…yn aros.

Gitârs yn tiwnio’r awr
hyd ei heithaf
a thannau’n cyhyrau’n tynhau

yna, yn fflach o gonverse coch
ar ddawns herciog;

bardd y curiad calon
a bardd y misfit yn ffrwydro’n
heneidiau, a’i dweud hi
mewn ffordd yr ydan ni’n ei ddallt…

…ac er yn hŷn, mae o’n un
ohonom ni.

Estynwn tua’r awyr dywyll
a reggae reggaeio’r nos ymaith

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

35 eiliad