Main content

Idris Reynolds- Y Bwrdd Brecwast.

Wrth i'r boreau wawrio yn rhy brysur
A chant a mil o dasgau eisiau'u gwneud,
Y rhagolygon tywydd yn ddigysur
A phethau ar ein meddwl heb eu dweud,
Pan fydd y gwaith beunyddiol yn ein llethu
Heb weld ymhellach na'n trafferthion m芒n
A phan fo pawb a phopeth wedi'n methu
A ninnau'n dal i ganu 'run hen g芒n,
Cawn glywed unwaith eto dros y radio
Am erchyllterau draw 'mhellafion byd,
Bydd barbareidiwch dynion yn ein sadio
Uwchben ein byrddau brecwast cegrwth, mud.
Bryd hynny cawn, dros ail gwpanaid te,
Am funud fach ystyried be 'di be'.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

46 eiliad

Daw'r clip hwn o