Main content

Diogi

Mi fu yna gyfnod pan oedd pob diwrnod
Yn llawn o ddiflastod dilestair,
Ein tadau鈥檔 llafurio a鈥檔 mamau鈥檔 ymlafnio
Heb undyn yn cydio mewn cadair.

Ond gwaith oedd eu teyrnas a gwead cymdeithas
A llafur yn urddas i鈥檞 hirddydd,
鈥橰oedd aur ym mhob ceiniog enillwyd o gyflog
I鈥檞 tlawd, ond goludog, aelwydydd.

A bellach, y rhinwedd mewn byd o ddigonedd
Yw cysgu a gorwedd heb gurio,
Cael gwyliau鈥檔 sagrafen mewn hawddfyd o hamdden,
A鈥檔 crefydd yw heulwen a hwylio.

A heddiw, a鈥檔 henwlad yn awr ar y farchnad,
I griw鈥檙 ymddeoliad ar ddeulin,
Gwneud dim yw鈥檙 diwylliant a chwarae鈥檔 ddiwydiant
A鈥檜 cyfoeth sy鈥檔 warant i werin.

Pan ddaw y robotiau cyn hir i鈥檔 rhoi ninnau
Ar domen ddieisiau yn ddiserch,
Ai nef neu wrthuni fydd gorfod diogi,
Ai drwg neu drueni i鈥檞 annerch?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud