Main content

Stori

Marged Tudur sy'n cofio'r dicter wrth i'r cyfryngau adrodd 'stori' marwolaeth ei brawd

Bardd mis Ebrill, Marged Tudur, sy'n cyfansoddi ar y testyn "Dicter".
Mae'n edrych yn ol ar y profiad o alaru am ei brawd a theimlo yn ddig wrth i'r cyfryngau adrodd ar y 'stori'.

Stori

Mae dwy fodryb yn dweud wrtha i
fod ei lun ar dudalen flaen y Daily Post heddiw,
iddo hawlio eitem ar y Post Prynhawn
a’i fod yn rhan o bytiau ffarwel
newyddion y Ö÷²¥´óÐã, ITV ac S4C
a phe tawn i’n teipio ei enw ar y we
mi welwn erthyglau, trydar a theyrngedau
a, ‘gwranda,
mi fydda’n ddoeth i ti beidio gweld.’

Dwi’n cogio cytuno
ac yn cau drws y parlwr
ar y cyd-adrodd
‘meddwl amdana chdi ydan ni.’

Dwi’n dod o hyd i’r papur
dan glustogau’r soffa,
dwi’n rhoi batris yn y radio,
dwi’n ail-gysylltu’r wi-fi
ac yn rhoi plwg y teledu yn ôl yn y wal.

Ac mae o yno efo’r tywydd
sy’n staying dry with some sunny spells,
mae o yno rhwng Miliband a Britain’s Got Talent,
Patagonia a lluniau Kyffin Williams.
Mae o’n ateb taclus terfynol
yng nghanol cwestiynau
which country has the least sexiest banknotes?
a pha mor anodd ydi hi
i brynu anrheg delfrydol i’ch cymar?
Mae o yno drws nesa i’r hysbys
70% off home, garden and fashion.

Gohebwyr yn rhestru ffeithiau
am gar a chorff ac anafiadau,
a jest cyn cloi,
maen nhw’n poeri brawddegau
mewn lleisiau print mân
ac yn annog ‘unrhyw un
oedd ar yr A487
rhwng 3 a 4 y bore
i ddeialu 101.’

Am ennyd neithiwr,
fe wnaethant bitïo
cyn cofio’n sydyn am y pitsa
oedd yn y popdy,
y dillad budur ar y landing,
y word count a’r deadline.

Ac uwch y meat feast pitsa
roedden nhw eisoes
yn byseddu’r stori nesaf.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau