Main content

Cerdd gan Marged Tudur, bardd y mis

I Ll欧r Serw ap Glyn

Heddiw, i Lanrwst
daeth dydd o haf
i gofleidio gwanwyn,
daeth moto beics i sgrytian
oglau鈥檙 Gogarth hyd y stryd
a thros y bont daeth rhai
i weld yr haul yn taenu鈥檌 liw
yn nrych yr afon.

A heddiw, yn Llanrwst
Serw sydd yn Gae Llan o groeso,
yn sicrwydd mewn storm,
yn Sadwrn ymhob Sul,
yn dynnu coes, yn ewyllys.
O鈥檌 gadair ger y ffenest
Serw sydd yn cyrraedd y Carneddau
a Serw sydd yn ymestyn at yfory
ei Gymru gyda gw锚n.

Diflannodd yr haul,
distawodd y moto beics,
dychwelodd rhai yn 么l dros y bont
ond yn Llanrwst, Serw sydd
yn gymar ac yn dad cadarn,
yn fab ac yn frawd o haearn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...