Main content

Cywydd Bardd y Mis Geraint Lloyd Owen i Awen a Geraint 08.05.17

Cywydd Bardd y Mis Geraint Lloyd Owen i Awen a Geraint 08.05.17

Dros y penwythnos roedd merch Geraint, Awen, yn priodi, rhoddwyd y cywydd iddi yn gyfarchion.

Cyfarchion Priodas Awen a Geraint (6-5-17)

Hwn yw dydd uno deuddyn
Dyna wyrth gwneud dau yn un.
Hwn yw dydd uno dwy ach,
Duwiol uno dwy linach.
Llawenydd newydd i ni
Rhoi deunydd parhad inni.

Ymhob partneriaeth mae her.
Ymhob priodas mae pryder.
I鈥檙 aelwyd daw cwerylon
A rhyw brep bob dydd o鈥檙 bron.
Ond ni waeth beth ddywed neb.
Gwenwch yn 么l i鈥檞 gwyneb.

Eich hunain buoch unwaith.
Ond rhannu鈥檙 gwely a鈥檙 gwaith
Raid i chi ar hyd eich oes,
Rhannu rydd werth ar einioes.
Rhannu鈥檙 aflwydd a鈥檙 llwyddiant
A rhannu鈥檙 cur, gant y cant.

Dewis merch od oes i mi,
Hawdd iawn a fydd ei henwi.
Odid mae Awen ydyw.
Main ei gwasg fel maneg yw!
A theg wraig ymhlith gwragedd.
Ni ddaw gwg i dduo鈥檌 gwedd.

Yma鈥檔 awr, dymunwn ni
Iechyd a鈥檙 gorau ichwi.
Boed d么r eich cartref hefyd
Yn dd么r tangnefedd o hyd.
A hyd y Farn hyfryd fydd
Eich gweled hefo鈥檆h gilydd.

Geraint Lloyd Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau