Main content

Y Rhaglen Gylchgrawn Orau; Aled Hughes

Y Rhaglen Gylchgrawn Orau; Rhaglen Aled Hughes (Gwobrau yr Å´yl Cyfryngau Celtaidd)

Mae yna wahanol berfformwyr i'w cael yn y byd,
A safon eu hiaith yn fratiog o hyd.
Ac ar ambell sgwrs fe gewch ambell un,
Sy'n mynd dros ben llestri ac yn gwneud ffwl ohono'i hun
Mae'r iaith yn clafychu ar wefusau y rhain
Nid yr iaith gadarn, goeth a siaradai fy nain.
Maent yno yn siarad yn fratiog i'r meic
A fawr neb yn poeni, nac yn meddwl am streic.
Ond wedi dweud hyn mae ambell un hirben
Fel seren arbennig yn nhwllch ffurfafen.
Mae hon yn llewyrchu ar bopeth o'i chwmpas,
Yn addurn pob ymgom, ac yn glust i gymdeithas.
A phwy yw y seren sydd heddiw'n wahanol
Yn trafod yr iaith gyda urddas fy mhobol
Ei enw? Wel, Aled Hughes ydy hwnw
Mae o yma i siarad hefo fi, ar fy marw
Doedd o ddim yn disgwyl hyn, na dim o gwbwl
A bydd bardd y mis Mai mewn andros o drwbwl!
Ond duwcs be ‘di o bwys, mae'r gŵr o Lanbedrog
Yn feistr ar holi, a'i waith sy'n ardderchog
Er byw draw ym Môn, mae'r hogyn o Lŷn
Yn arddel sawl idiom yn ei iaith ei hun
Fe glywyd am 'lwmp o gan' wir i chi
Neu am lwmp o farddoniaeth fel hwn gennyf i.
A dyna chi wedyn rhen Al’ hefo'i foch
Yn dysgu eu tywys o gylch Abersoch.
Ac am ras 'redig y Sarn, ef ydyw'r dyn
Â'i aradr ungwys all guro pob un.
Mae'n sobor am ddewis sawl her yn flynyddol
A gweld concro y cyfan, mae'n foi penderfynol.
A dyna paham rwyf mor hapus fy nghri
Ac yn tynnu fy nghap i gyflwynydd fel ti.

Geraint Lloyd Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Dan sylw yn...