Main content

BARDD Y MIS - Cerdd i Galwad Cynnar

Aderyn-drycin Manaw

Mae 鈥檔a gwmwl du heddiw yn bygwth glaw
ac ogla terfysg ar yr awel ddaw
dros frig y moryn, mae鈥檔 oeri fan hyn;
wyt ti wedi twtio dy blu, 鈥檔ghyw bach gwyn?

Mae M么r Iwerddon yn dangos ei liw
a chapan ar gorun yr Eifl a鈥檌 chriw.
Mi gei hwylio fory, os Duw a鈥檌 myn;
wyt ti wedi twtio dy blu, 鈥檔ghyw bach gwyn?

Bydd dannedd y Swnt yn angof cyn hir,
y peicia鈥檔 bell, ac ar fy ngwir
cei daith esmwythach os gafaeli di鈥檔 dynn;
wyt ti wedi twtio dy blu, 鈥檔ghyw bach gwyn?

Ffarwelia 芒鈥檙 Ynys a鈥檌 mynwes glyd
am aelwyd o鈥檙 newydd ym mhen pella鈥檙 byd,
ond swatia r诺an nes bydd fory ynghynn;
wyt ti wedi twtio dy blu, 鈥檔ghyw bach gwyn?

Rho d鈥檃ir y dychweli rhyw ddydd 鈥檔么l i鈥檙 lle
nad oes tebyg iddo draw acw鈥檔 y De;
pan deimli鈥檙 hen alwad, d鈥檞ed y doi ditha cyn
i minna roi trefn ar fy mhlu, 鈥檔ghyw bach gwyn.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o