Main content

Cerdd a sgwrs gydag Esyllt Nest Roberts

Sh芒n yn holi bardd mis Mehefin Esyllt Nest Roberts

Sws
(Ariannin 2004)

Er mai鈥檙 Gymraeg sy鈥檔 teyrnasu arni
mae鈥檙 wefus uchaf yn wastadol anystwyth gen i,

ei harfer yw gwenu鈥檔 boleit, foneddigaidd
gyda rhyw amnaid bwriadol anfursennaidd,

ysgwyd llaw a chyfarch 鈥淧a hwyl?鈥 yn gl锚n
heb ddisgwyl ateb go iawn - mi wneith gw锚n.

Neilltuaf fy swsus i chwaer a chyfeilles
(neu gariad sy 鈥檔ghudd i fyny鈥檙 llawes),

gan gadw fy holl jyrms i mi fy hun
yn heintiau caeth rhwng cadwynau dau fin.

Na, nid hawdd yw i geffyl lacio鈥檌 weflau
a magu cast cusanu bochau.

* * * *
Sws
(Cymru 2017)

Pan ddaeth Iago i鈥檙 ysgol 芒 phoen yn ei fol
mi ledodd fy mreichiau fel llorpiau trol;

yn ei wewyr teirmlwydd, roedd bryd yr hen ddyn
ar gusan gysurus neu foethau ar lin

ond yr unig falm i feichiau ei fyd
oedd hances bapur ac wedyn - dim byd!

Ac wrth gamu dros riniog neu gyfarch cydnabod
y fi sydd bellach yn mygu rhyw chwithdod

gyda 鈥檔gharnau mewn cyffion, rhwng dwywlad yn crwydro
a 鈥檔gwefusau ynghlo dan fariau dawns limbo.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau