Main content

Bardd y Mis, Emyr Lewis, ar raglen Aled Hughes

Gan ei fod 100 mlynedd ers cychwyn brwydr Paschendale a lladd Hedd Wyn a miloedd mwy, rwyf wedi cyfansoddi englyn sydd yn cysylltu'r drychineb honno gyda digwyddiadau heddiw.

Yr wyf yn argyhoeddedig fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn un o'r prif resymau na fu rhyfel mawr rhwng gwladwriaethau Gorllewin Ewrop yn ystod fy oes.

Rwy'n ofidus iawn y gallai Brexit a'r rhethreg gwenwynig gwrth-Ewropeaidd sydd ynghlwm wrtho beryglu'r heddwch hwn, gan gofio mai'r genhedlaeth hyn gan fwyaf a bleidleisiodd dros Brexit, a'r genhedlaeth iau fydd yn dioddef y canlyniadau:

Mae Hedd Wyn yn meddiannu – ein heddwch
yn nyddiau'r gwahanu,
â'r henwyr blin yn rhannu
i'r to iau gadeiriau du.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

9 o funudau

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Blodau Mihangel Glas