Main content

Casia Wiliam - Mis Medi

Mae’r babell yn ôl yn y sied
gydag ambell welltyn o’n hanturiaethau
yn swatio’n boeth rhwng y plygiadau blêr.
Y welingtons hefyd, wedi cael fflich am y tro;
mwd Môn yn gafael yn dynn yn eu gwadnau.
Da ni’n dal i ‘chwarae haf’ yn ein sandalau
tra bod tywod y traethau tramor
yn ffeindio’i ffordd mewn i leinin ein cesys.
Yn araf, daw sŵn y gloch i’n hysgwyd
o’n llesmair hir, a phrysurwn
i estyn dillad ysgol a rhoi min ar bensel.
Mae’r cloddiau a’r llethrau’n deffro hefyd
ac yn rhwbio’r haf o’u llygaid
i weld cleisiau piws y mwyar a’r grug.
Uwchlaw mae awyr Medi’n hiraethu
am oglais y wennol,
a’r llanw’n chwyddo dan leuad drom;
y dynfa i’w theimlo, bron.
Efallai y daw Mihangel a llyfiad cynnes
i’n cario tan yr hydref, ond, cyn hynny,
cyn i ni ddechrau meddwl am gau’r llenni’n gynt,
wrthi’r haul groesi o’r gogledd i’r de,
wrth i’r mis hwn ein gorfodi eto i feddwl am drefn,
cawn ddeuddeg awr o ddydd, a deuddeg awr o nos.
Byddwn i gyd, am ryw ennyd, ar ein hechel.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o