Main content

Ffrind gan Casia Wiliam

Wedi’i hysbrydoli gan albym newydd Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach

Wedi’i hysbrydoli gan albym newydd Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach.

Ffrind
Cefais freuddwyd amdanat ti neithiwr…
Fedrwn i mo’i dal hi peth cynta’,
cwsg yn fwgwd a’r bore’n bygwth boddi’r llun
ond yna’n araf daeth y lliwiau’n ôl.
Roedden ni’n blant eto,
yn rhedeg rhwng y rhedyn
ac yn rhannu chwerthin fel swigod pop.
Mewn fflach wedyn dacw ni’n
sbecian trwy’r clawdd ar ffermwr y Felin
yn stwnsian siarad trwy’i fwstash,
yn byw mewn un gôt
a’i dŷ yn fudur trwy’n llygaid ni…
wyt ti’n cofio fel ydw i?
Ac fel mae hi mewn breuddwyd
sylwais yn sydyn ein bod yn sgwrsio
mewn rhywbeth nad oedd cweit yn Gymraeg,
y ddwy ohonom yn dallt i’r dim,
y cytseiniaid diarth mor gyfarwydd
â’r brychni ar dy drwyn, a’r graith ar fy llaw.
A’r peth nesa’, dyna ni ar drên,
ar daith yn gweld y byd eilwaith
trwy lygaid ein gilydd.
Weithiau, ti oeddwn i.
Ac yn lle anfon hanes adref ar gerdyn post
anfonom blethen hir o’n hoff synau.
Fel mae hi mewn breuddwyd.
A’r bore ’ma, a finnau’n llwyd mewn swyddfa,
a tithau, yn duw a wyr lle,
dwi’n hiraethu am y cwbl
fel tae ni wedi bod yna go iawn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud