Main content

Elfed, Y Prif Weithredwr

rhoi'r awch i boeri gwreichion
a byw yr iaith dan ein bron,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes:

rhoi'r llwyfan i'r gair llafar,
i gwrw a gwg y gair gw芒r,
rhoi i'r Orsedd ei hedd hi,
rhoi heniaith, a'i choroni:

rhoi i yfwyr eu prifwyl,
rhoi i deulu Gymru'i gwyl,
a rhoi mwy i ddrama hon
y gwyliau sy'n dy galon:

rhoi i hen w锚r brin o arian
lun o gerdd gynnal hen g芒n,
rhoi i ateb y brotest,
rhoi bri a'n noddi a wnest:

rhoi ynni dy arweiniad
a rhoi'r wledd i dir y wlad,
rhoi'n unfarn ar ein henfaes,
a rhoi i mewn i agor Maes:

ac mor gymraeg y rhegi,
rhoi yn ein hiaith dy waith di,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes.

Karen Owen
10.8.18

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...