Main content

Elinor Wyn Reynolds yw bardd preswyl mis Medi.

’Nôl i’r ysgol

‘Dere ’rhen foi, mas o’r gwely ’na’n glou
bore bia hi, hwyr glas i ti godi.’

‘O, Mam, wy’n glwc, yn brin iawn o blwc,
wy’n dost a ma ’mola i’n corddi.’

‘Ond, mae’n ddechre blwyddyn ysgol, grwt,
bydd gan bawb sglein ar sgidie newydd.’

‘Sa i ishe, Mam, wy’n teimlo’n reit wan
ac wy’n becso’n fawr am y tywydd.’

‘Gad y ca’ sgwâr, trodd nos yn ddydd ers meityn
a ma gwersi i’w dysgu, y twpsyn.’

‘Sdim whant arna i, wir, ma’r gwin ’di troi’n sur
wy’n teimlo mor wan â gwybedyn.’

‘Wel, gwed beth sy mor ofnadw o wael
am yr ysgol, beth yw sail dy achos?’

‘Sneb yn lico fi, Mam, maen nhw’n gas, dyna pam,
yr athrawon, heb sôn am y plantos.’

‘Wel, mae’n rhaid i ti fynd, mae’n siŵr y gwnei ffrind,
a sdim iws i ti bwdu a stranco.’

‘Pam?’ medde fe. ‘Achos,’ medde hi,
‘Mai ti yw y blwmin prifathro.’

Elinor Wyn Reynolds

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud