Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym, 鈥榙yw鈥檙 clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

"Ar yr Unfed Awr ar Ddeg"

Ar yr unfed awr ar ddeg
fe gofiwn.
Cofiwn awel y gwynddydd pelledig
a chwythodd dros y byd,
dros bawb;
dros wenau rhosliw'r milwyr syrthiedig
ac echdoriadau ecstatig
y dinasoedd.
Hawdd syllu trwy niwl hanes
a honni na fydd haul eu hatgofion
byth yn machlud,
y dynion a menywod a roddwyd yn hael
i'r dynion balch a'u gemau drud.
A gofiwn iddynt fyw,
a gofiwn iddynt garu?
Cusanau cyflym, cofleidiau - eu dynoliaeth
mewn cyffyrddiadau,
bach a mawr,
a'u dewrder yn eiliadau bregus y bwrlwm
yn brawf o nerth eu cariad.
Ond wedi eu haberth ar lethrau
serth rhyfel,
wedi canrif o gofio,
a oes heddwch?

Beth Celyn

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...