Main content

Manon Awst - Breuddwydion pebble-dash

Rhed, paid ag edrych
ar y maes domestig
a'i wyneb pebble-dash.
Glyna dy drwyn i'r ff么n
fel rhyw dr么n yn mynd am dro.

Ar draws y maes llwyd
mewn ffrog no-ffrils
ti'n cysgu - watscha ddisgyn!
Y croen sych ar dy gefn
fel plisgyn
a'r bargeinion yn hel
yn nyfnderoedd dy fag plastig.

Does na'm amser am goff
ac mae popeth ar y stryd 'di arafu
i stop,
y shutters ar gau ar ffenest pob siop.
Dy amser di'n llifo'n wag fel newsfeed,
a phopeth yn teimlo'n stici,
yn llethol o ddi-hid.

Ond mae'r pebble-dash yn tyfu fesul milltir,
yn cydio fel sment
am dy freuddwydion.

- Manon Awst

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad