Main content

Coedwig gan Judith Musker Turner

Cerdd gan Judith Musker Turner i nodi Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost 2020.

Coedwig
i nodi Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost 2020

Mae鈥檔 aeaf yn y goedwig,
y gaeaf oeraf a welwyd erioed
gan y prennau llwyd
sy鈥檔 sefyll yn stond,
mewn rhesi difesur
ar y llethrau llwm
fel torf o gyrff noeth yn y niwl.

Mae hi鈥檔 ddistaw,
heb ochenaid na si,
ac nid oes un chwa o wynt
i gynhyrfu sudd eu gwythiennau sych
nac i ddeffro鈥檙 un ddeilen grin
i ffarwelio golau gwan y dydd.

Mae hi鈥檔 nosi,
ac ym mhylni min y nos
mae streipiau dryslyd y brigynnau main
yn rith o freichiau
uwchben d眉wch y pridd
yn ymestyn
yn erfyniol i鈥檙 byd.

Does neb yn y goedwig.
Ond heno, gadawn gysur yr aelwyd dwym
a down gyda鈥檔 gilydd rhwng y prennau mud,
gyda gwres ein cyrff a鈥檔 canhwyllau claer
i fywiogi鈥檙 llonyddwch,
ac mae fflach y fflamau鈥檔 deffro atgof hen
ac mae鈥檙 coed yn rhynnu.

Clywn s诺n ein sibrydion
fel egin cyntaf y gwanwyn,
a chofiwn bleser y misoedd mwyn,
pan oedd y goedwig mor brysur 芒 ffair,
llawn bwrlwm bywyd a blagur yn byrstio,
gwreiddiau鈥檔 tyrchu a sugno鈥檔 farus o鈥檙 pridd,
ac ymgodymu didostur y glasbren
yn ei ras i gyrraedd ffafr yr haul.

Angof oedd creithiau鈥檙 rhisgl
dan duswau鈥檙 dail newydd,
a daethom yn ddigymell yn llu
i edmygu鈥檙 gogoniant,
芒鈥檔 llygaid yn osgoi鈥檙 cysgodion.

Ond heno,
yn noethni鈥檙 gaeaf
er gwaethaf yr oerfel bythol gynyddol
down yn 么l
芒鈥檔 llygaid ar agor,
down yn 么l,
yn sobor,
at ein coed.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o