Main content

'Dim cywilydd cyfaddef bod yn alcoholig'

"Does 'na ddim cywilydd cyfaddef eich bod yn alcoholig ac heb os fe wnaeth cael cymorth proffesiynol fy helpu i ddeall gwraidd y broblem," medd Elfed Wyn ap Elwyn sydd bellach yn un o gynghorwyr Cyngor Sir Gwynedd.

Dywed ei fod yn gwybod na fyddai wedi bod yn 诺r, tad na chynghorydd petai e ddim wedi cael cymorth.

"Fel na'th dyn yr AA ddeud wrthai, does yna ddim cywilydd. Mi all o ddigwydd i rhywun - ac wedi mynd yno fe ddaeth ryw don o ryddhad.

Dyw e ddim bwys pryd mae rhywun yn deffro i'r broblem - yn eich ugeiniau neu yn eich saithdegau - ond pan 'dach chi'n deffro i'r broblem dyna ddechrau eich bywyd newydd," meddai.

Mae'n pwysleisio hefyd bod y broses wedi cryfhau ei ffydd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

11 o funudau