Main content

Dementia: 'Byth yn holi am y merched a'r wyrion nawr'

"Mae cymdeithas a chefnogaeth mor bwysig i deuluoedd dementia," medd gweinidog o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n gofalu am ei wraig.

Daw sylwadau y Parchedig Hywel Wyn Richards wrth i Undeb yr Annibynwyr arwain ymgyrch i wneud "eu heglwysi yn rhai dementia-gyfeillgar" ac ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Cafodd Dilys Richards ddiagnosis o gyflwr Alzheimers yn 2020.

Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg mae'r Parchedig Hywel Wyn Richards yn rhannu ei brofiad ac yn disgrifio sut mae cof a chyflwr ei wraig yn dirywio'n raddol gan ateb i ddechrau a oedd cael diagnosis cynnar yn help.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau