Main content

Dafydd Meredydd

Mae Dafydd Meredydd yn cyflwyno rhaglen fore Radio Cymru gyda Caryl Parry Jones.

Mae Dafydd Meredydd yn dod yn wreiddiol o Benisarwaen.

Mi wnaeth fentro i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio Ffiseg y Planedau a'r Gofod! Yna symudodd i Gaerdydd a chafodd y cyfle i gyflwyno rhaglen wyddoniaeth i blant o'r enw Pantecnicon ar S4C.

Wedi hyn, daeth cyfleoedd i gyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru fel Gwell Hwyr Na Hwyrach, Tonfedd, Paid a Bod Ofn, Ram Jam a Ram Jam Sadwrn, yn ogystal 芒 sawl sioe allanol fawr a rhaglenni o wledydd tramor megis Awstralia a Phatagonia.

Am bedair blynedd a hanner fe wnaeth ddarlledu ei sioe ei hun bob pnawn rhwng 3 a 5 ar y gwasanaeth cenedlaethol cyn ymuno 芒 th卯m C2, ac er daeth galwadau i ddychwelyd i fyd teledu i gyflwyno C芒n i Gymru, Y Cnapan, Camp am Ganu, Blwyddyn Newydd Dda a Delweddau'r Dyfodol, mae'n rhaid dweud mai radio yw ei gariad cyntaf.